fbalearning.co.uk
Compass Series

Cyfres Cwmpawd

Mae Cyfre Cwmpawd yn set unigryw o wyth llyfr stori-a-llun sydd wedi’u hysgrifennu a’u darlunio’n benodol i alluogi disgyblion i archwilio agweddau rhaglen astudio Cyfnod Allweddoll 1 ar gyfer Daearyddiaeth. Mae pob llyfr yn y gyfres ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Yn ffocysu ar fywydau dau belntyn dychmygol sy’n byw yn y Gymru gyfoes, mae Cyfres Cwmpawd yn gasgliad o straeon difyr ac addysgol. Ceir darluniau lliw hardd ym mhob llyfr ac wrth i ddarllenwyr ifanc ddilyn anturiaethau a theithiau Bethan a Gareth, cânt eu cyflwyno i wahanol ardaloedd a nodweddion daearyddol. Mae’r gyfres yn ddefnyddiol wrth ddysgu termau a syniadau daearyddol allweddol, ac hefyd wrth wella llythrennedd cyffredinol.

Bydd Nodiadau i’r Athro a dalennau gweithgaredd y disgyblion sy’n mynd gyda Cyfres Cwmpawd hefyd ar gael yn Gymraeg neu’n Saesneg AM DDIM ar y gwefan hwn.

Ceir 12 tudalen o nodiadau cyffredinol â set o ddalennau gweithgaredd cyffredinol i fynd gyda hwy a ellir eu llwytho i lawr i’ch cyfrifiadur, eu hargraffu a’u ffotocpoïo. Ar hyn o bryd mae gennym hefyd nodiadau athro a dalennau gweithgaredd penodol ar gyfer 5 o’r 8 llyfr yn y gyfres sydd ar y gwefan hwn.

Os hoffech brynu copïau o lyfrau Cyfres Cwmpawd cewch eu harchebu gennym ni ar-lein cyn hir ond yn y cyfamser ebostiwch ni ar bookshop@fbalearning.co.uk gan nodi eich enw a’ch manylion cysylltu ac fe gysylltwn â chi.


Cafodd y nodiadau hyn i athrawon eu creu gan Olive Dyer a'u darlunio gan Jenny Williams mewn cydweithreidad a Chyhoeddiadau FBA ac ACCAC. © Hawlfraint (Saesneg)